Dathlu gwaith R.S. Thomas yn Marché de la poésie, Paris

Dathlu gwaith R.S. Thomas yn Marché de la poésie, Paris

10 Mehefin 2015

Thomas1

Fe fydd gwaith R.S. Thomas yn cael ei ddathlu a'i hyrwyddo yn Marché de la poésie, Paris wrth i Qui? casgliad o waith R.S. Thomas wedi ei gyfieithu i’r Ffrangeg gael ei gyhoeddi.

Cyfieithwyd y gyfrol gan Marie-Thérèse Castay, Paol Keineg and Jean-Yves Le Disez, a’i chyhoeddi gan wasg Les Hauts-fonds gyda chefnogaeth grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.


Cynhelir Marché de la poésie rhwng 10-14 o Fehefin eleni. Wedi ei lleoli yng nghalon Saint-Germain des Prés ers dros ddeg mlynedd ar hugain, mae'r farchnad yn dod â thua 500 o feirdd a chyhoeddwyr ynghyd. 
Yn ogystal â marchnad farddoniaeth awyr agored unigryw a ddenodd 50,000 o bobl yn 2014, cynhelir cyfarfodydd, darlleniadau, trafodaethau bord gron, a chyngherddau.