Dethol cyfrol o waith R.S.Thomas i restr flynyddol o lyfrau gorau 2014 yn Tseina

Dethol cyfrol o waith R.S.Thomas i restr flynyddol o lyfrau gorau 2014 yn Tseina

09 Chwefror 2015

RST China

Detholwyd cyfrol R. S. Thomas, Collected Later Poems (1988-2000), wedi ei chyfieithu i'r Tseineg gan Jia Cheng a'i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Chongqing, i ddwy restr flynyddol o lyfrau gorau 2014 yn Tseina.

Detholwyd y gyfrol ymysg unarddeg o gyfrolau llenyddol y flwyddyn gan y Beijing News, tra ymddangosodd y llyfr ar restr o 100 cyfrol y flwyddyn gan IFeng. Ymysg cyfrolau eraill i’w dethol i’r ddwy restr mae The Festival of Insignificance gan Milan Kundera a Less Than One gan Joseph Brodsky.

Mae Jia Cheng yn ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Jinan, Tseina ac wedi bod yn cyfieithu gwaith R.S.Thomas er dros ddegawd. Cyhoeddwyd ei gyfieithiad Tsenieg o waith R.S.Thomas, Collected Poems (1945 – 1990) yn 2012.