Cyfleoedd Cyllido Ewrop Greadigol – Sesiwn Wybodaeth

Cyfleoedd Cyllido Ewrop Greadigol – Sesiwn Wybodaeth

09 Ionawr 2015

Mr Schwob ymysg y llyfrau2

Dydd Gwener, 9 Ionawr 2015, fe fydd Swyddfa Ewrop Greadigol y Deyrnas Unedig – Cymru mewn cydweithrediad a Chyfnewidfa Lên Cymru yn cynnal sesiwn wybodaeth i’r sector lenyddiaeth, cyfieithu a chyhoeddi yng Nghymru. Bwriad y sesiwn a gynhelir yn Llyfrgell Sefydliad Mercator, Adeilad Parry Williams (Adran Theatr, Ffilm a Theledu), Prifysgol Aberystwyth, o 13:00yh ymlaen, yw cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd cyllid cronfa Ewrop Greadigol.

Bydd Catrin Cooke, Rheolwr Diwylliant desg wybodaeth Ewrop Greadigol yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am y gronfa Cyfieithu Llenyddol yn benodol, yn ogystal a chyfleodd eraill i wneud cais am gyllid o gronfa Ewrop Greadigol. Bydd cynrychiolwyr o weisg yn Lloegr yn trafod eu profiad o’r gronfa, tra bydd Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru yn rhoi blas o’r hyn sy’n bosib trwy dderbyn grant Ewrop Greadigol a'r cyd-destun yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth a chadw lle, ewch i wefan digwyddiadau Swyddfa Ewrop Greadigol y Deyrnas Unedig yma.