05 Tachwedd 2014
Lansiwyd gwobr Stephen Spender Prize, yn 2004, a'r beirniaid eleni oedd Edith Hill, Susan Bassnett, a'r beirdd W.N. Herbert a Stephen Romer. Canmolwyd gyfieithiad Gwyneth Lewis am ei ysgafnder cain a’i lafariaid meddal, a’i ddisgrifio fel un meistrolgar, cadarn ond hefyd yn ewfforig.’
Nod y gystadleuaeth yw codi ymwybyddiaeth o waith y cyfieithydd, drwy daflu goleuni ar y broses o gyfieithu. Mae’r sylwebaeth o ganlyniad yn rhoi llais i’r cyfieithydd, gan roi cyfle i egluro a chyfiawnhau penderfyniadau.
Yn ei sylwebaeth, noda Gwyneth Lewis: “Fy nod oedd cynnal disgleirdeb trosiadol ap Gwilym tra eto’n dal gafael yn ei batrwm mydryddol ysgafn. Mae barddoniaeth Gymraeg yn sillafog, tra bod barddoniaeth Saesneg yn acennog. Mae’n anodd cyfleu crynoder Dafydd ap Gwilym heb straen o fewn saith sillaf. Fy mlaenoriaeth felly oedd dal ffraethineb y bardd a’i joie de vivre.”
Enillydd y wobr oedd Iain Galbraith, gyda’i gyfieithiad o ‘Quince Jelly’ gan y bardd o Hamburg Jan Wagner.
Darllenwch waith y buddugwyr, yn cynnwys cyfieithiad Gwyneth Lewis, yma.
Bydd cystadleuaeth 2015 yn agor fis Ionawr.