Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014

Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014

26 Awst 2014

ITD 2013 pic via English PEN 2 493x273

Cyhoeddwyd rhaglen lawn Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014. Digwyddiad blynyddol ar gyfer y gymuned gyfieithu yw symposiwm Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Mae’n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgellwyr, blogwyr ac adolygwyr i ddod ynghyd a thrafod materion a datblygiadau arwyddocaol o fewn y sector, trafod heriau a dathlu llwyddiant.

Cyflwynir y diwrnod gan Free Word, English PEN a’r Llyfrgell Brydeinig mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Brydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (BCLT), Cymdeithas y Cyfieithwyr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Cyfnewidfa Lên Cymru. Yn ystod y symposiwm a gynhelir ar Fedi’r 26ain 2014 yn y Llyfrgell Brydeinig, Llundain, ceir seminarau amrywiol yn cynnwys sgwrs ar ieithoedd yn y DG a chyfle i geisio gwerthu cyfrol wedi ei chyfieithu heb ei chyhoeddi i banel o gyhoeddwyr mewn sesiwn arbennig.

Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014, 26 Medi 2014, 9:00yb – 5:00yh Y Llyfrgell Brydeinig, NW1 2DB

Mae modd darllen crynodeb o ddigwyddiadau’r diwrnod yma, neu lawr lwytho’r rhaglen lawn fel PDF yma.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad bellach ar werth ar wefan y Llyfrgell Brydeinig.