14 Rhagfyr 2015
Prosiect newydd gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau yn Sefydliad Mercator yw Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw (Literary Europe Live). Byrdwn y prosiect yw datblygu a hybu rhaglennu byw sydd yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth llenyddiaeth yn Ewrop heddiw. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi gweledigaeth lenyddol o addewid arbennig ac yn datblygu cynulleidfaoedd byw a digidol ar gyfer llenyddiaeth o wahanol rannau o'r byd.
Pa wyliau llenyddol sydd yn rhan o Lenyddiaeth Ewrop yn Fyw/Literary Europe Live? Cewch glywed yn y fideo hwn rai o aelodau'r prosiect yn siarad am eu gwaith, eu digwyddiadau llenyddol a beth yw ystyr llenyddiaeth iddynt.