30 Gorffennaf 2015
Detholwyd Broc Rhyfel i Silff Lyfrau 2014-15 – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor. Mae’r nofel rymus hon yn mynd â’r darllenydd ar daith i rai o gorneli tywyllaf a pheryclaf Ewrop, o ryfel y Balcannau i fasnachu menywod o fewn y diwydiant rhyw yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi’r gyfrol, nododd Martin Davis y bydd holl freindaliadau Broc Rhyfel yn mynd at y Poppy Project, a sefydlwyd yn 2003 i ddarparu cefnogaeth, eiriolaeth a llety i ferched sydd wedi'u masnachu, hynny yw menywod sydd wedi eu gorfodi i deithio i Gymru a Lloegr a’u camdrin mewn ryw ffordd.
Credir bod oddeutu 21 miliwn o bobl wedi eu dal fel caethweision heddiw. Mae dynion, menywod a phlant yn cael eu dal a’u twyllo gan fasnachwyr yn eu gwledydd eu hunain a thramor.
I ddarganfod mwy am Ddiwrnod y Byd yn Erbyn Masnachu Pobl y Cenhedloedd Unedig, ewch i’w gwefan.
I ddarganfod mwy am y Poppy Project, ewch i’w gwefan.