Rhoi sylw i gyfieithwyr newydd

Rhoi sylw i gyfieithwyr newydd

31 Mai 2013

Mi fydd y Ganolfan Brydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (British Centre for Literary Translation) yn dathlu penllanw eu rhaglen mentora cyfieithwyr a lansiad rhifyn 2/2013 o'r cyfnodolyn First Lines ar nos Iau y 13eg o Fehefin. Ymysg y cyfieithwyr dan sylw y mae Siân Melangell Dafydd, awdur Y Trydydd Peth.

Cafodd ei chynllun mentora ei drefnu mewn cydweithrediad â Chyfnewidfa Lên Cymru, gyda chefnogaeth rhaglen Tŷ Cyfieithu Cymru.

Dydd Iau, y 13eg o Fehefin, am 7 yr hwyr.
Free Word Centre, 60 Farringdon Road, London EC1R 3GA