Gwaith Robert Minhinnick i’w gynnwys yng nghyfrol Best European Fiction 2014

Gwaith Robert Minhinnick i’w gynnwys yng nghyfrol Best European Fiction 2014

13 Ionawr 2014

Minhinnick large

Fe fydd gwasg Dalkey Archive Press yn dathlu cyhoeddi’r bumed gyfrol yng nghasgliad Best European Fiction eleni. Cyhoeddir y gyfrol yn flynyddol i gyflwyno gorau llenyddiaeth gyfoes Ewrop i gynulleidfa newydd. Ceir cyfieithiadau o dros 25 o ieithoedd eleni. Ymysg y straeon wedi eu dethol, ac yn cynrychioli llenyddiaeth Cymru, mae ‘Scavenger’ gan Robert Minhinnick.

Mae’r Gyfnewidfa wedi cydweithio â’r wasg a Chyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo gwaith awduron o Gymru ers lansio’r gyfrol bum mlynedd yn ôl. Ymysg rhai o awduron cyfrolau’r gorffennol y mae gwaith gan Penny Simpson (2010), Wiliam Owen Roberts (2011), Duncan Bush (2012) a Ray French (2013).

I ddathlu’r cyhoeddi fe fydd Dalkey Archive Press yn cynnal noson arbennig yng nghwmni Robert Minhinnick, Herkus Kuncius (Lithwania), Oscar Magnusson (Gwlad yr Iâ), Susana Medina (Sbaen), Tonu Onnepalu (Estonia) ynghyd â Drago Jančar (Slofenia), awdur y rhagair, yn Europe House, Llundain ar Ionawr y 15fed, 2014 am 18:30 dan gadeiryddiaeth y newyddiadurwr Rosie Goldsmith.

Dathlu cyhoeddi Best European Fiction 2014, Europe House, Llundain, Ionawr 15fed 2014, 18:30

Gellir darllen mwy am Best European Fiction 2014 yma

Oriel Gysylltiedig