Cymrodoriaeth Cyhoeddwyr Schwob i Mick Felton o wasg Seren

Cymrodoriaeth Cyhoeddwyr Schwob i Mick Felton o wasg Seren

19 Mehefin 2014

Schwob

Mae Mick Felton o wasg Seren wedi derbyn Cymrodoriaeth Cyhoeddwyr Schwob.

Fel rhan o’r gymrodoriaeth fe fydd Mick yn ymweld a Barcelona fis Mehefin i gyfarfod gyda 8 cyhoeddwr, Metis (Twrci), Diogenes (Swistir), Fayard (Ffrainc), Lebowski (Yr Iseldiroedd), WSOY (Ffindir), Polirom (Rwmania), Foksal Publishing Group (Gwlad Pwyl), Elliot edizioni (Yr Eidal), i drafod clasuron modern Ewropeaidd sydd eto i’w cyfieithu’n eang, yn cynnwys cyfrolau o Gymru.

Fel rhan o’r cyfarfodydd fe fydd Schwob yn hyrwyddo cyfrolau sy’n debygol o fod o ddiddordeb, darparu gwybodaeth am hawliau cyfieithu a chynnig cyngor ar gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cynnwys grantiau cyfieithu.

Ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau llenyddiaeth yn y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Catalwnia, Cymdeithas Awduron Ewrop a Chyfnewidfa Lên Cymru yw Schwob. Cefnogir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd.

Darllenwch fwy am Schwob yma.