27 Ionawr 2016
Mae stori fer gan y Cymro Huw Lawrence wedi ei dewis ar gyfer y gyfrol Best European Fiction 2016 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dalkey Archive Press (Victoria Texas, Llundain a Dulyn). Mae ei stori “Restocking” yn ymddangos yn yr iaith wreiddiol, sef y Saesneg, ond mae’r 29 eitem arall yn y gyfrol wedi eu cyfieithu i’r Saesneg o ieithoedd mor amrywiol â’r Bwyleg a’r Rwmaneg, y Ffrangeg a’r Almaeneg, y Gatalaneg a’r Fasgeg, y Georgeg a’r Aserbaisiani. Yn ddiweddar dechreuodd Huw ysgrifennu yn Gymraeg hefyd.
Y stori fer yw hoff gyfrwng Huw, ac enillodd nifer o wobrau yng nghystadlaethau Rhys Davies a’r Bridport. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf Always the Love of Someone gan Y Lolfa/Alcemi yn 2010 a bu’r gyfrol ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Roland Mathias y flwyddyn honno. Mae sôn ei fod wrthi’n cwblhau nofel hir-ddisgwyliedig.
Bu’r Gyfnewidfa Lên a Chyngor Llyfrau Cymru yn cydweithio ers blynyddoedd gyda Gwasg Dalkey Archive i hyrwyddo awduron o Gymru. Yn y gorffennol dewiswyd gwaith gan yr awduron Cymreig a ganlyn: Penny Simpson, Wiliam Owen Roberts, Duncan Bush, Ray French, Robert Minhinnick a Christopher Meredith.