‘Mae yna rywbeth am Gymru sydd wedi hollti trefniad fy ngherddi.’

‘Mae yna rywbeth am Gymru sydd wedi hollti trefniad fy ngherddi.’

24 Mawrth 2015

Sampurna Chattarji

Sampurna Chattarji yw’r awdur dan sylw yn adran Dwy Ffenest rhifyn Gwanwyn y cylchgrawn llenyddol Taliesin. Tra bod yr adran fel arfer yn cynnig cyfle i awdur o Gymru ‘ddarllen y byd’, yn y rhifyn cyfredol ar y thema Cofio, rhoddir cyfle i awdur o’r byd ‘ddarllen Cymru.’

Yn ogystal a rhoi blas o farddoniaeth Sampurna Chattarji drwy gyfieithiadau gan Sian Melangell Dafydd, ceir hefyd ysgrif gan y bardd yn disgrifio dylanwad, Cymru, ein beirdd a’n llenyddiaeth yn uniongyrchol ar ei gwaith.

Mae Sampurna Chattarji yn fardd, nofelydd, cyfieithydd ac awdur i blant. Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg, gan gynnwys pedair cyfrol o farddoniaeth: The Scorpian (Harper 21, 2013), Absent Muses (Poetrywala, 2010), The Fried Frog (Scholastic, 2009) a Sight May Strike You Blind (Sahitya Akademi, 2007), a dwy nofel: Rupture (2009) a Land of the Well (2012) gan Harper Collins. Mae Dirty love (Penguin, 2013) yn gasgliad o straeon byrion am Bombay. Roedd ei chyfieithiad diweddar o gerddi’r bardd Bengali, Joy Goswami, Selected Poems (Harper Perennial, 2014) ar restr fer y Khushwant Singh Memorial Poetry Prize. Dechreuodd gyfieithu i'r Bengali yn dilyn ei phrofiad mewn gweithdai cyfieithu gan ein chwaer sedyfliad, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn 2009 a 2010.

Yn 2011 roedd yn un o feirdd Cadwyn Awduron Cymru India, tra yn 2012 bu’n rhan o weithdy arbennig ar gyfieithu llenyddiaeth i blant drefnwyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru. Mae gwaith Sampurna Chattarji wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, yn cynnwys y Gymraeg. Ymddangosodd rhai o’i cherddi yn y Gymraeg mewn atodiad arbennig i gylchgrawn Taliesin gan feirdd y Gadwyn Awduron yn 2013.

Taliesin: Cofio, Cyfrol 154, Gwanwyn 2015.