Rhwydwaith y Goudfazant yn cyfarfod ym Mudapest

Rhwydwaith y Goudfazant yn cyfarfod ym Mudapest

15 Mehefin 2015

DSC 2758 2

Fe fydd Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru yn mynychu cyfarfod rhwydwaith y Goudfazant yn Amgueddfa Lenyddol Petőfi ym Mudapest, ddydd Llun, Mehefin 15fed 2015. Mae’r rhwydwaith, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn rhoi cyfle i gyrff Ewropeaidd sy’n ariannu cyfieithiadau i gyfarfod a thrafod arfer da.

Yn ystod y cyfarfod, fe fydd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, yn rhoi cyflwyniad ar waith ymchwil ystadegol diweddar y sefydliad ar gyhoeddi llenyddiaeth mewn cyfieithiad Saesneg yn y DG ac Iwerddon.

Mewn araith ddiweddar, dyfynnodd Marina Warner, un o feirniaid Gwobr Ryngwladol y Man Booker ffigyrau’r adroddiad gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau er mwyn tynnu sylw at y diffyg llenyddiaeth byd a gyfieithir i'r Saesneg.

Fe fydd cyfle hefyd i glywed cyflwyniadau gan Gyfnewidfa Lên Iwerddon, Sefydliad Llenyddol yr Iseldiroedd a Llyfrau o Hwngari ar eu systemau cyflwyno grantiau cyfieithu yn ogystal â thrafodaeth ar gynnal preswyliadau llenyddol.

I ddarllen adroddiad ystadegol Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, How many translations are being published in the UK?, ewch i’w gwefan.