Bookcase Focus: An interview with Martin Davis

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Martin Davis

15 Rhagfyr 2021

Martin davis

I nodi Diwrnod y Byd yn Erbyn Masnachu Pobl, bu'r Gyfnewidfa yn cyfweld un o awduron y Silff Lyfrau, Martin Davis am ei nofel Broc Rhyfel, cyfrol sy'n mynd a'r darllenydd i rai o gorneli peryclaf a thywyllaf Ewrop.

Beth ysbrydolodd chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?

Cariad at ddarllen, cariad at storïau a chariad at eiriau – yn enwedig geiriau Cymraeg. Doedd dim teledu yn y tŷ acw pan o’n i’n ifanc felly ar lyfrau y bues i’n porthi fy nychymyg yn bennaf. Hefyd, dyn dall oedd fy nhad ac mi fyddwn i’n aml yn darllen yn uchel iddo – pob math o bethau – heb eu talfyrru mewn unrhyw ffordd, dim neidio dros ddarnau diflas na sganio i ddiwedd y bennod. Erbyn hyn dw i’n sylweddoli bod y broses yma wedi rhoi syniad go lew i mi o ran y gwahaniaeth rhwng sgwennu da a sgwennu gwael. Ffynhonnell adloniant arall a daniai fy nychymyg yn gyson yn ystod fy mhlentyndod a glaslencyndod oedd drama radio.

Mam oedd cyfarwyddes yr aelwyd ac yn ddi-os roedd yna dipyn o straeon gafaelgar a rhyfeddol yn perthyn i wahanol aelodau o’r teulu. Yng nghanol fy arddegau, mi ddechreuais i ddysgu’r Gymraeg o ddifri ac unwaith i mi ddechrau ysgrifennu yn yr iaith, fedrwn i ddim stopio. Pleser amheuthun i mi oedd o, un o’r pethau gorau erioed, ac mae’n dal i deimlo’r un fath. Y digwyddiad a ysgogodd fy ngyrfa lenyddol fel y cyfryw oedd darllen cyfrol Iwan Llwyd, Sonedau Bore Sadwrn - mi ges i fy nhanio cymaint gan y cerddi hyn ro’n i jest yn gwybod bod yr awr wedi cyrraedd! Mi oeddwn i wedi bod wrthi’n sgriblo ychydig o gerddi yn y Gymraeg dros y blynyddoedd cyn hynny er fy nifyrrwch fy hun a heb unrhyw olwg ar eu cyhoeddi. Mi benderfynais eu hanfon at yr Athro John Rowlands, dyn y bu ei anogaeth gyson yn ysbrydoliaeth i lawer iawn o gyw-lenorion Cymraeg. Roedd ei ymateb i’r cerddi’n gadarnhaol ac o’r adeg honno doedd dim troi’n ôl … Dyma fi’n eu parselu a’u hanfon at Y Lolfa a’u cyhoeddodd yn eu cyfres Beirdd Answyddogol ym 1986.

Syniadau? Maent yn dod o fyw a bod yn y byd sydd ohoni gyda golwg ar y gorffennol a’r presennol a’r berthynas rhwng y ddau – ac ambell un o chwedlau teuluol Mam wedi’i chyflwyno i roi blas.

Sut fyddech chi’n disgrifio’ch gwaith ysgrifennu?

Stori, stori, stori, achos mai dyna dw i’n ei mwynhau orau. Realaeth gydag elfen gymdeithasol-hanesyddol gref a digonedd o gyfeiriadau at fyd natur a’r dirwedd. Lleolir y rhan fwyaf o’m nofelau yn y Gymru wledig ond dw i bob amser yn ceisio gosod Cymru mewn rhyw fath o gyd-destun rhyngwladol neu o leiaf gyd-destun sy’n estyn y tu hwnt i Glawdd Offa. Fodd bynnag, Cymraeg y mae fy nghymeriadau i gyd yn ei siarad â’i gilydd, p’un a ydynt yn dod o Crouch End, Borth-y-gest, Moldofa neu Mali - fedra i ddim eu dychmygu fel arall.

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch?

Darllenydd brwd ac anniwall mewn sawl iaith oeddwn i ers talwm. Y dyddiau hyn, mi fydda i’n darllen llawer iawn llai ac yn arafach o lawer ac o ganlyniad yn treulio mwy o amser dan ddylanwad yr awdur dan sylw. Yn bendant, gall crefft a thechneg awduron eraill ymdreiddio ymhell i’r isymwybod. Dau awdur sy’n dod i’r meddwl y mae eu gwaith yn bendant wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar y ffordd dw i’n ysgrifennu yw Dieter Noll (1927-2008) o Ddwyrain yr Almaen gynt a’r awdur Cymraeg, J.G. Williams – y cyntaf am ei ddawn storïol afaelgar, a’r ail am eglurder arddull a naws delynegol ei ddwy gyfrol hunangofiannol, Pigau’r Sêr a Maes Mihangel (yn anffodus, doedd ei nofel Betws Hirfaen ddim mor ysbrydoledig). Ond mae yna lu o ddylanwadau eraill y gallwn eu henwi ac mae pob awdur yn dipyn o bioden yn y bôn…

Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ydi’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?

I awdur Cymraeg sy’n tynnu at ddiwedd ei bumdegau, mae apelio at gynulleidfa ifanc yn dipyn o her – yn sicr, doedd y bwlch rhwng cenedlaethau ddim yr un fath pan ddechreuais i lenydda. Alla i ddim siarad dros awduron eraill ond dw i’n cymryd bod hyn yn broblem i sawl awdur o’r un oedran.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?

Y peth hawsaf yw cael dy swyno gan yr hyn sydd i’w weld yn syniad cynhaliol ar gyfer nofel ac wedyn mwya i gyd rwyt ti’n ceisio ei ddatblygu, mwya cymhleth, annhebygol ac anghynaliadwy y mae’n dod – ond, yn anffodus, does dim troi’n ôl, ac wedyn mae’r cwbwl rywsut yn dod yn orchwyl anodd iawn.

Pa awduron o Gymru fyddech chi’n eu hargymell i ddarllenwyr, a pham?

Yn ddiamod, byddwn yn argymell gwaith Wiliam Owen Roberts i ddarllenwyr o bedwar ban oherwydd ehangder ei gynfas a’r cipolwg pryfoclyd y mae’n ei gynnig ar hanes a chymdeithas yn ei nofelau yn ogystal â’r holl gymeriadau brith ac anarferol y mae’n eu consurio wrth bob tro yn y stori.

Detholwyd Broc Rhyfel gan Martin Davis i Silff Lyfrau 2014-15 Y Gyfnewidfa. Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau - darllenwch fwy yma.