24 Gorffennaf 2013
Ar nos Iau 18 Gorffennaf cyhoeddwyd mai prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 yw Heini Gruffudd gyda’i gyfrol Yr Erlid (Y Lolfa). Yn ôl y beirniaid, enillydd y categori Ffeithiol-greadigol oedd yn haeddiannol o’r teitl eleni. Mae’r llyfr yn olrhain hanes mam yr awdur, Kate Bosse-Griffiths a’i theulu yn ystod cyfnod dirdynnol yr Ail Ryfel Byd. Yma clywn hanes o garu, o gasáu, o ofni ac o ladd wrth i deulu Kate Bosse-Griffiths gael eu herlid gan y Natsïaid.
Cyhoeddwyd y canlyniad mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn adeilad godidog Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd. Cyflwynwyd y sieciau i’r enillwyr gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith.
Yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth eleni, mae Aneirin Karadog – bardd-berfformiwr a chyflwynydd teledu poblogaidd a ddaeth i’r brig gyda’i gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas). Mae Aneirin hefyd newydd ddechrau ar ei waith fel Bardd Plant Cymru. Enillydd y categori Ffuglen eleni yw Manon Steffan Ros gyda’i nofel hynod boblogaidd, Blasu (Y Lolfa).
Roedd enillydd pob categori yn derbyn £2,000 yr un a’r awdur buddugol yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.Y tri ar y panel beirniadu eleni oedd Alun Gibbard, Bethan Elfyn ac Elin ap Hywel.
Doedd canlyniadau pleidlais Barn y Bobl ddim yn cyd-fynd â dewis y Beirniaid eleni, wrth i’r mwyafrif fynd i Llion Jones, awdur y gyfrol farddoniaeth Trydar Mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas). Gweinyddwyd y bleidlais gan Golwg360, a derbyniodd Llion Jones ddarn o waith celf a gomisiynwyd yn arbennig yn wobr.
Rhian Edwards oedd prif enillydd y Wobr Saesneg gyda’i chyfrol o farddoniaeth Clueless Dogs (Seren). Dyma gyfrol gyntaf Rhian Edwards sydd wedi gwneud enw iddi ei hunan fel bardd-berfformiwr. Fe enillodd Wobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar yn 2011, ac yn 2012 derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Lenyddiaeth Cymru. Roedd y bobl yn cytuno â dewis y beirniaid y tro hwn, gan i Rhian Edwards hefyd ennill y nifer uchaf o bleidleisiau ym mhleidlais The People’s Choice, a noddir gan Media Wales.
John Harrison sydd wedi dod i’r brig yn y categori Ffeithiol-greadigol gyda’i lyfr taith Forgotten Footprints (Parthian), a James Smythe yw enillydd y categori Ffuglen gyda’i nofel The Testimony (Blue Door).