Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros

 Manon Steffan Ros

Magwyd Manon Steffan Ros ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ac mae bellach yn byw yn Nhywyn, Sir Feirionnydd gyda’i meibion. Wedi iddi adael yr ysgol, bu’n gweithio fel actores am rai blynyddoedd cyn troi at ysgrifennu.

Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 a 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Enillodd ei drama, Mwgsi, wobr Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018.

Mae wedi ennill Gwobr Tir na n-Og pedair gwaith gyda'i nofelau Trwy'r Tonnau (2010), Prism (2012), Pluen (2017) a Fi a Joe Allen (2019), oll wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa. Enillodd ei nofel Blasu (Y Lolfa, 2012) gategori ffuglen gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg, The Seasoning, gan Honno yn 2015.

Mae ei thrydedd nofel i oedolion, Llanw (Y Lolfa, 2014), yn adrodd hanes Llanw, merch ifanc sy’n byw gyda Gorwel, ei hefaill, a’u nain mewn bwthyn mewn pentref bychan arfordirol yng nghanol Cymru. Mae’r Ail Ryfel Byd yn taflu ei gysgod ar y teulu, gan fod penderfyniad Gorwel yn cael effaith niweidiol ar fywyd Llanw.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 gyda’i nofel Llyfr Glas Nebo, ac fe’i dewiswyd ar gyfer y Silff Lyfrau 2018. Enillodd y wobr driphlyg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019 gyda’r nofel honno, wrth iddi gipio'r wobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth, gwobr Golwg360 Barn y Bobl, a phrif wobr Llyfr y Flwyddyn hefyd. Gwyliwch Manon yn trafod ac yn darllen darn o'r nofel, yma. Addaswyd y nofel yn ddrama lwyfan gan Manon Steffan Ros ar y cyd ag Elgan Rhys, un o gyfarwyddwyr cwmni’r Frân Wên, a bu’r cynhyrchiad yn teithio theatrau ar draws Cymru ar ddechrau 2020. Cafodd ei chynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch y tudalennau agoriadol o Llyfr Glas Nebo, a gyfieithwyd i'r Saesneg gan yr awdur, yma. Mae’r nofel eisoes wedi ei chyfieithu i’r Bwyleg, Catalaneg a Sbaeneg.

Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf i oedolion, Llechi gan y Lolfa yn 2021, sy’n stori emosiynol, gignoeth, yn dilyn criw o ffrindiau Gwenno ar ôl iddi gael ei llofruddio'n ddisymwth yn 16 oed. Daw nifer o gyfrinachau am fywyd Gwenno a'i theulu i'r amlwg, ac mae sawl cynllwyn a thro annisgwyl yn dod i'r fei ynglŷn â'r hyn wnaeth arwain at ei lladd. Dewiswyd y nofel hon i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant.

Silff Lyfrau