Cyfieithu Cymru – India: Ysgol Aeaf Ryngwladol

Cyfieithu Cymru – India: Ysgol Aeaf Ryngwladol

05 Chwefror 2015

Gweithdy Cymru India 2

Fel rhan o ymdrech barhaus i gysylltu llenyddiaeth o Gymru, India a Nepal, cynhaliwyd ail weithdy cyfieithu rhwng 29 Ionawr hyd 2 Chwefror 2015, y tro hwn yn yr India.

Mae’n dilyn gweithdy a gynhaliwyd yn Aberystwyth fis Medi 2014, gyda’r nod o hyrwyddo sgiliau cyfieithu ymysg grŵp o fyfyrwyr a chyfieithwyr, ac yn y broses, ychwanegu at yr archif o lenyddiaeth o Gymru ar gael mewn Bangla, a'r lenyddiaeth Bangla sydd ar gael mewn Cymraeg a Saesneg. Fe fydd y prosiect yn cynyddu’r archif o lenyddiaeth o Nepal sydd ar gael yn Bangla a Saesneg hefyd.

Yn ystod y gweithdy cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys sgyrsiau ar gyfieithu yng nghyd-destun yr India a Chymru. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfres o weithdai cyfieithu fu’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gymraeg, Bangla a Nepaleg gan ddefnyddio’r dull cydweithredol o gyfieithu ble mae cyfranwyr yn cyfieithu testun gyda’i gilydd mewn grwpiau dan arweiniad un unigolyn a thrwy ymgynghori gyda’r awdur ble fo hynny’n bosib. Yn ystod y gweithdy bu pedwar grŵp yn cyfieithu ar yr un pryd gyda chymorth cyfranwyr sy’n gweithio mewn Bangla, Nepaleg, Saesneg a Chymraeg.

Trefnwyd Cyfieithu Cymru – India: Yr Ysgol Aeaf Rhyngwladol ar y cyd rhwng y CENTIL, Prifysgol Jadavpur, mewn cydweithrediad a Phrifysgol Aberystwyth, fel rhan o raglen ehangach Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.