15 Rhagfyr 2014
Wrth i 2014 dynnu tua’r terfyn, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn edrych yn nol dros y flwyddyn a aeth heibio. Dros y dyddiau nesaf, drwy gyfrwng ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol, ein bwriad yw nodi deg o’n huchafbwyntiau eleni.
Ein huchafbwynt cyntaf yw preswyliad Schwob. Ddechrau fis Ionawr, croesawodd Cyfnewidfa Lên Cymru bump o awduron a chyfieithwyr tramor i Dŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol fel rhan o brosiect Schwob.
Bu Emilia Ivancu, Jaume Subirana, a Yuvan ill tri yn gweithio ar gyfieithu cerddi R. S. Thomas i’r Rwmaneg, i’r Gatalaneg a Thamil. Canolbwyntiodd Marta Klonowska ar gyfieithu Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard i’r Bwyleg a’r Athro Wolfgang Schamoni ar gyfieithu gwaith Kate Roberts i’r Almaeneg.
Yn ystod eu preswyliad bu’r cyfnod awduron a’r cyfieithwyr yn trafod y gweithiau gydag ysgolheigion ac arbenigwyr, yn ymweld â lleoliadau o bwysigrwydd i’r gweithiau, yn ogystal â chael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well.
Lansiwyd Schwob yn yr Iseldiroedd yn 2011 i hwyluso'r gwaith o hyrwyddo cyfieithu a chyhoeddi goreuon llenyddiaeth dramor yno. Yn 2013, derbyniodd y prosiect gefnogaeth ariannol fel rhan o Raglen Ddiwylliant yr UE er mwyn ehangu yn rhwydwaith ryngwladol. Mae Schwob bellach yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau llenyddiaeth mewn chwe gwlad, gan gynnwys Cymru drwy Gyfnewidfa Lên Cymru, i dynnu sylw at "glasuron modern eithriadol, sy'n anodd eu canfod, sy'n hogi'r awydd am fwy".
Cewch flas ar y preswyliad drwy ymweld a’n tudalen Storify yma.
Darganfyddwch mwy am brosiect Schwob yma.