24 Mai 2018
Fe fydd Elin Haf Gruffydd Jones yn mynychu cyfarfod o rwydwaith Ewropeaidd ar Gyfieithu Llenyddol gynhelir yn Frankfurt, Yr Almaen, ar 30 Mai 2018. Mae’r rhwydwaith, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn rhoi cyfle i gyrff Ewropeaidd sy’n ariannu cyfieithiadau megis Literature Ireland, FILI ac Extepare, i gyfarfod a thrafod arfer da.
Yn y sytod y cyfarfod, fe fydd cyfle i wrando ar gyflwyniadau ar gyfnewid llenyddol a chyfieithu, syniadau ar gyfer ceisiadau Ewrop Greadigol yn ogystal chynllunio digwyddiad ar y cyd yn Ffair Lyfrau Frankfurt, a gynhelir fis Hydref.
Yn ystod y gynhadledd fe fydd Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn rhoi cyflwyniad ar Gyfieithu yn y Byd Arabaidd. Gellir darllen diweddariad ar adroddiad y sefydliad ar gyfieithu llenyddol o'r Arabeg i'r Saesneg yn y DG yma.