Grantiau cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru i gyhoeddwyr
Mae grantiau cyhoeddi'r Gyfnewidfa ar gael i gyhoeddwyr tramor er cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg Cymru.
Gall cyhoeddwyr yn y Deyrnas Unedig wneud cais ar gyfer cyfieithu llyfrau Cymraeg i'r Saesneg.
Cefnogir Cronfa Grantiau Cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae pob cais a ddyfernir yn ddarostyngedig i’r ymrwymiad ariannol hwnnw.