Mae Grug Muse yn fardd, ysgrifwr a golygydd.
Daeth ei hail gyfrol o farddoniaeth, merch y llyn, (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2021) i’r brig yng nghategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Mae hefyd yn un o gyd-olygyddion y gyfrol Welsh (plural) (Repeater, 2022), cyfrol o ysgrifau sy’n ceisio dychmygu Cymru sy’n gynhwysol ond neilltuol.
Mae’n perfformio ei gwaith yn gyson, ac ymddangosodd mewn sawl gŵyl yn lleol a rhyngwladol, gan gynnwys Gŵyl Farddoniaeth Berlin (2021), Gŵyl Farddoniaeth Thessaly (2021), Gŵyl y Gelli (2022) a Transpoesie yn Brwsel (2022). Bu’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, gan deithio i Croatia, Gwlad Groeg a Serbia.
Mae'n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp, gwasg fechan annibynnol sy’n cyhoeddi pamffledi a chyfrolau gyda ffocws ar farddoniaeth a chelf. Yn 2021, cyd-sefydlodd y cyfnodolyn barddoniaeth, Ffosfforws, gyda Iestyn Tyne.
Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys y Guardian, O'r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, The Letters Page ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu gwaith Gwyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd Her Gyfieithu Pen Cymru 2020.
Mae newydd gwblhau doethuriaith ar lên taith Gymraeg am America Ladin ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.
Mae Grug Muse yn fardd, golygydd, perfformwraig ac addysgwraig. Mae'n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae hi'n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, ac yn ddeilydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020.
Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O'r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu gwaith Gwyl y Gelli 2018-19, ac fe ennillodd y gadair yn eisteddfod genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr eisteddfod ryng-golegol yn 2019.
Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.