Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
Casgliad o straeon/ysgrifau gan 10 awdur sy'n uniaethu fel menywod ac yn byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn sôn am eu profiadau. Mae cyfraniadau'n amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, tôn, hyd, profiad a chefndir: yr unig gyfarwyddyd a roddwyd i'r awduron oedd iddynt ysgrifennu am y profiad o fod yn fenyw yn yr unfed ganrif ar hugain. Ceir cyflwyniad byr gan y golygyddion, Catrin Beard ac Esyllt Lewis, ar ddechrau'r gyfrol.
Mae'r golygyddion wedi casglu ynghyd gynrychiolaeth dda o awduron adnabyddus a phrofiadol sydd eisoes yn gyfarwydd, a mwy o awduron 'newydd' ac felly wedi cyflawni un o brif nodau'r gyfrol, ac yn wir un o brif amcanion Gwasg Honno, sef meithrin a darparu llwyfan i awduron newydd.
Cyfranwyr : Megan Davies, Megan Hunter, Mabli Siriol Jones, Non Mererid Jones, Nia Morais, Grug Muse, Siân Northey, Rebecca Thomas, Miriam Sautin, Manon Steffan Ros.
Golygyddion : Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis
Artist : Seren Morgan Jones
Honno
208 pp
Lynzie Fitzpatrick
press@honno.co.uk