Magwyd Caryl Lewis yn Aberaeron, a mynychodd ysgol gynradd ac uwchradd Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn ennill gradd uwch mewn ysgrifennu o Brifysgol Aberystwyth. Mae Caryl bellach yn ddarlithydd gwadd ar Ysgrifennu Creadigol gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn byw ar fferm gyda'i theulu ar gyrion Aberystwyth.
Mae Caryl wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer y teledu, y llwyfan ac i blant. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Dal hi! yn 2003, sydd yn nofel i oedolion ifanc, ac enillodd Iawn, boi? (Y Lolfa, 2003), wobr Tir na n-Og yn 2004. Hi yw awdur y gyfres lyfrau boblogaidd i blant Y Teulu Boncyrs (Y Lolfa), ac yn 2014 cyhoeddwyd ei stori luniau hyfryd Sgleinio’r Lleuad gyda lluniau gan Valeriane Leblond yn 2014.
Daeth Caryl Lewis i amlygrwydd fel awdur Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004), a enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Dyma nofel i oedolion, sy'n adrodd hanes dau frawd a chwaer sy'n byw yng nghefn gwlad Ceredigion. Enillodd hon wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Yn 2007 cyhoeddodd Parthian gyfieithiad Saesneg Gwen Davies o’r nofel, Martha, Jack and Shanco. Yn 2009 ymddangosodd addasiad ffilm yr awdur o’r nofel ar gyfer S4C, a enillodd chwe gwobr BAFTA. Mae Caryl hefyd wedi sgriptio nifer o ffilmiau a rhaglenni gan gynnwys Y Rhwyd (S4C), Gari Tryfan a’r Drych i’r Gorffennol (S4C, 2010) ac Elen (Sgrin Cymru, 2006).
Cyrhaeddodd Y Gemydd (Y Lolfa, 2007) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2008, a’i nofel Naw Mis (Y Lolfa, 2009) yn 2010. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o Y Gemydd gan Honno yn 2019 fel The Jeweller, a gyfieithwyd gan Gwen Davies, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020–21.
Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion, Plu (Y Lolfa) yn 2008. Enillodd Caryl Lewis wobr Llyfr y Flwyddyn am yr eilwaith yn 2016 gyda’i degfed nofel, Y Bwthyn (Y Lolfa, 2015), nofel sydd wedi ei selio ar dri chymeriad – Enoch, Isaac ac Owen.
Cafodd ei chynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch cyfieithiad o'i stori fer "Y Gwreiddyn", a chyfieithwyd i'r Saesneg gan George Jones, yma.
Cyhoeddwyd Y Gwreiddyn gan y Lolfa yn 2016. Mae’r gyfrol hon o straeon byrion yn ymwneud â natur, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, cariad a cholled. Mae pob stori yn ceisio mynd i’r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau â’i gilydd. Cyrhaeddodd y gyfrol hon restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017, a detholwyd ef ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017. Yn 2023, enillodd wobr LLyfr y Flwyddyn am y trydydd tro am ei nofel Saesneg gyntaf Drift, - yr awdur cyntaf i ennill y wobr yn y ddwy iaith. Ei nofel diweddaraf yw Bitter Honey a gyhoeddwyd gan Doubleday yn 2025.
Yn 2019 roedd yn un o’r awduron a oedd yn rhan o daith Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Calicut a Mumbai. Hefyd yn 2019 roedd hi’n un o’r pedwar o awduron Ewropeaidd a oedd yn rhan o daith Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Dde Ddwyrain Asia. Yn ystod y daith, cymerodd ran yn ‘Singapore Writers Festival’ a chynhadledd 'Asia Pacific Writers and Translators' (APWT).
Roedd Caryl yn rhan o drafodaeth 'A Different Window onto the World: Indigenous Language Literature, Identity and Translation in Scotland, Wales and Europe' yn Ffair Lyfrau Llundain 2019 (gweler y lluniau yma).