Sian Northey

Sian Northey

 Sian Northey

Mae Sian Northey yn awdur, bardd, cyfieithydd a golygydd llawrydd. Magwyd Sian Northey yn Nhrawsfynydd, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth.

Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch), ar restr fer barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2014. Mae cyfieithiadau Sbaeneg o 8 o’i cherddi wedi eu cynnwys mewn blodeugerdd a gyhoeddwyd ym Mecsico. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant, yn ogystal â llên meicro.

Mae hi'n awdur tair nofel i oedolion – dewiswyd dwy ohonynt, Rhyd y Gro (Gwasg Gomer*, 2016) ac Yn y Tŷ Hwn (Gwasg Gomer*, 2011) ar gyfer ein Silff Lyfrau. Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion Celwydd Oll (Gwasg y Bwthyn) yn 2018, ei nofel Perthyn (Gomer) yn 2019 a chasgliad arall o straen byrion, Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn) yn 2020.

Ymhlith cyfieithiadau Sian i'r Gymraeg mae'r cofiant The Journey is Home gan John Sam Jones, a nofel gyntaf arobryn Alys Conran, Pigeon. Mae hi hefyd wedi cyfieithu The Last Firefox gan Lee Newbery (Penguin Random House, 2022) o dan y teitl Y Llwynog Tân Olaf (Firefly Press, 2022) ac mae'n un o ddau olygydd gwadd blodeugerddi barddoniaeth ddwyieithog Cymraeg/Saesneg Gwasg Arachne A470, ac Afonydd.

Cyhoeddwyd cyfieithiad (Susan Walton) o nofel Sian Yn y Tŷ Hwn o dan y teitl This House (3TimesRebel Press) yn 2024, ac mae hi'n un o'r chwe bardd y bydd eu gwaith, wedi'i gyfieithu gan Robert Minnhinick, yn ymddangos yn Alcatraz, casgliad a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Carcanet yn gynnar yn 2026. Ar hyn o bryd mae Sian yn gweithio ar ei hail gasgliad o farddoniaeth a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Cyhoeddiadau'r Stamp.

Mae Sian wedi ymweld â Kerala fel aelod o weithdy barddoniaeth gyfieithu a drefnwyd gan chwaer sefydliad y Gyfnewidfa, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF), ar y cyd â Sahitya Pravarthaka Saharkarana Sangham (SPCS). (gweler y lluniau yma) ac yn ddiweddar roedd yn Fardd Preswyl ar brosiect treftadaeth 18 mis o hyd a gynhelir gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae hi hefyd wedi treulio amser fel Awdur Preswyl ar Enlli, gyda banciau bwyd lleol, gyda gardd gymunedol a gyda safle cadwraeth tirwedd.

*Mae hawlfraint llyfrau Gwasg Gomer Sian bellach yn dal Y Lolfa