Rhyd-y-gro

Rhyd-y-gro

Read sample of this book

Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad - dieithriaid, i bob pwrpas - sy'n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau'r ddau. Ond mae cymeriadau eraill yn llechu ar y cyrion, rhai arwyddocaol o ieuenctid Steffan: Carys (mam Efa), Lora a Rhydian Gwyn, y mwyaf enigmatig ohonynt i gyd. A beth tybed yw pwysigrwydd yr hyn a ddigwyddodd yn Rhyd y Gro, y tŷ a fu'n gartref i'r pedwar ffrind?

Yn y nofel deimladwy, synhwyrus hon mae Sian Northey yn edrych ar gariad a cholled ac ar y modd yr ydym yn gwau edafedd y gorffennol ynghyd i greu ein storïau bratiog ein hunain.

Adolygiadau

'Mae Sian Northey yn awdures sydd yn awgrymu rhai pethau yn hytrach na’u dweud, dawn sydd yn gwneud hon yn nofel liwgar a difyr i’w darllen.'

Gwales