Iestyn Tyne

Ewch i'r Wefan
 Iestyn Tyne

Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Mae’n llenor, yn gerddor, yn gyfieithydd ac yn artist. Mae’n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp, tŷ cyhoeddi Cymraeg annibynnol, gwirfoddol a chydweithredol. Mae wedi pefformio ei waith ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys teithiau yn Ewrop, De America ac Affrica. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016 a’i Chadair yn 2019, ac ef yw’r unig un i fod wedi ennill y ddwy brif wobr lenyddol yn eisteddfodau’r Urdd. Rhwng 2019 a 2023, ef oedd Bardd Preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyrhaeddodd ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2021) restr fer gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2022, a chyhoeddwyd trosiad o’r casgliad hwnnw, Unspecified Spaces (Broken Sleep Books, 2023) maes o law. Ei bamffled diweddaraf o gerddi yw Dysgu Nofio (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2023) ac yn ei gyhoeddiad diweddaraf, llyfr ffeithiol greadigol Y Cyfan A Fu Rhyngom Ni (Gwasg y Bwthyn, 2025) mae'n cyfuno cofiant, beirniadaeth lenyddol, hanes diwylliannol, ac ysgrifennu creadigol sy'n archwilio bywyd a gwaith y bardd Prosser Rhys a'r cyfnod cyn iddo ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1924 gyda'i gerdd ddadleuol "Atgof".

Yn ddiweddar cyhoeddodd Nodiadlyfr bach y wawr sef casgliad o bymtheg cerdd gan Najwan Darwish, un o leisiau barddol cyfoes amlycaf Palesteina, wedi’u dethol a’u cyfieithu o’r Arabeg gan Iestyn a Hammad Rind.

Gyda Leo Drayton, roedd yn awdur Robyn (Y Lolfa, 2021) yng nghyfres Y Pump o nofelau i oedolion ifanc, a chyhoeddwyd addasiad Saesneg gan Mared Roberts o'r casgliad Five gan Firefly yn 2025.

Mae’n gyd-olygydd Welsh [Plural] (Repeater, 2022), y gyfrol o ysgrifau am ddyfodol Cymru.