Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
Y Cyfan A Fu Rhyngom Ni Cover MASTER001

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni(Everything That Was Between Us)

Gan gyfuno cofiant, beirniadaeth lenyddol, hanes diwylliannol, ac ysgrifennu creadigol mewn naratif hygyrch, mae Iestyn Tyne yn mynd â'r darllenydd ar daith hollol fodern i'r gorffennol.

Ychydig dros ganrif ers i Prosser Rhys ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1924 gyda'i gerdd ddadleuol "Atgof", cychwyna'r awdur Cymreig adnabyddus Iestyn Tyne ar daith lenyddol sy'n olrhain llwybrau'r gwaith arloesol hwn. Mae'r darn ffeithiol creadigol hwn yn stori dditectif lenyddol a myfyrdod personol ar hunaniaeth cwîar yng Nghymru.

Mae archwiliad yr awdur yn mynd ymhell y tu hwnt i ddadansoddiad llenyddol, gan blethu ystyriaethau o ysgrifennu LHCTC+ yng Nghymru, sensoriaeth a rhagfarn, cwestiynau am wreiddiau a magwraeth, cynefin ac ymfudo, salwch, a deinameg gymhleth cof a hunaniaeth. Mae'r gwaith yn rhoi persbectif cyfoes hanfodol ar un o gerddi mwyaf arwyddocaol ond dadleuol llenyddiaeth Gymraeg, a achosodd syndod ar y pryd oherwydd ei chynnwys cyfunrywiol.

Adolygiadau

"Cydwenwn, cyd-ddigiwn, cydofidiwn a chyd-dristhawn â'r awdur ar ei hynt. Defnyddia holl adnoddau'r Gymraeg, o'r clasurol coeth i'r demotig sathredig i adrodd ei hanesion."

Richard Crowe, O'r Pedwar Gwynt