Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
"Gogoniant y casgliad myfyrdodus a thra galluog hwn yw’r ddawn lachar a welir yma i gynnal, o’r dechrau i’r diwedd, un ddelwedd elfennaidd, lifeiriol: dŵr."
Jason Walford Davies
Cyhoeddir Dysgu Nofio, pamffled newydd o gerddi gan Iestyn Tyne, gan Gyhoeddiadau’r Stamp ym mis Medi. Dan y teitl ‘Rhyddid’, cyflwynwyd y casgliad i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ac fe’u gosodwyd yn y tri uchaf ac yn deilwng o’r wobr gan y beirniaid, Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.
Dywedodd Jason Walford Davies yn ei feirniadaeth mai ‘gogoniant y casgliad myfyrdodus a thra galluog hwn yw’r ddawn lachar a welir yma i gynnal, o’r dechrau o’r diwedd, un ddelwedd elfennaidd, lifeiriol: dŵr’. Gwneir hynny trwy am-yn-eilio cerddi dan y teitl ‘Gwers’, sy’n darlunio cwrs un wers nofio mewn canolfan hamdden ar nos Lun, gyda cherddi ehangach eu golwg, lle mae’r profiad o ddod yn rhiant yn wyneb argyfwng hinsawdd a bygythiad difodiant yn llifo trwy bopeth.
Cyhoeddiadau’r Stamp
cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
"Gogoniant y casgliad myfyrdodus a thra galluog hwn yw’r ddawn lachar a welir yma i gynnal, o’r dechrau i’r diwedd, un ddelwedd elfennaidd, lifeiriol: dŵr."
Jason Walford Davies