Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

Drws Anna(Anna's Door)

Mae Iestyn Llwyd yn gyfieithydd sy'n byw ac yn gweithio mewn tref yng ngogledd Cymru. Pan mae'n derbyn galwad ffôn gan ddyn yn gofyn iddo gyfieithu ei atgofion i'r Gymraeg mae'n dechrau ymgolli yn y stori: caiff ei daflu i fywyd hedonistaidd Paris a'i gyflwyno i ferch gymwynasgar, angerddol o'r enw Anna, a Joni Zlatko: cymeriad lliwgar sy'n credu mai pacio yw'r ateb i broblemau'r byd.


Mae Iestyn yn cael ei dynnu'n gynyddol i fyd Anna, Joni a'r awdur dirgel: pwy yw e, a pham wnaeth fynnu bod Iestyn yn cyfieithu ei stori?

Nofel sy'n dadansoddi hunaniaeth yn athronyddol ac yn cwestiynu cof, iaith a chyfeillgarwch i'r eithaf.