05 Gorffennaf 2016
Brynhawn Iau, 4 Awst 2016 am 3pm, bydd enillydd Cymraeg yr Her Gyfieithu eleni yn cael ei wobrwyo ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni mewn digwyddiad a drefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru.
Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd Sbaeneg ‘El Conejo y la Chistera’ gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano, a beirniad ycynigion Cymraeg a ddaeth i law oedd Ned Thomas. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £250 yn ogystal â ffon farddol a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a bydd croeso cynnes i bawb.
Trefnir yr Her Gyfieithu ar y cyd rhwng PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru.