25 Awst 2015
Cyflwynir y diwrnod gan Free Word, English PEN a’r Llyfrgell Brydeinig mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Brydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (BCLT), Rhwydwaith y Cyfieithwyr sy'n dod i'r Amlwg, Cymdeithas y Cyfieithwyr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Words Without Borders, Canolfan Ysgrifennu Norwich a Chyfnewidfa Lên Cymru.
Digwyddiad blynyddol ar gyfer y gymuned gyfieithu yw symposiwm Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Mae’n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgellwyr, blogwyr ac adolygwyr i ddod ynghyd a thrafod materion a datblygiadau arwyddocaol o fewn y sector, trafod heriau a dathlu llwyddiant.
Mae'r rhaglen yn llawn i'w gweld yma.
Darllenwch gerdyn post Angharad Price o Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014.
Mae tocynnau ar werth drwy wefan y Llyfrgell Brydeinig.