17 Hydref 2013
Ceir digwyddiadau wedi eu trefnu ym Mangor, Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caernarfon a Phortmeirion. Bydd barddoniaeth o amrywiaeth o ieithoedd yn cael ei chyflwyno yr iaith wreiddiol a chyda cyfieithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg. Yr hyn sy'n arbennig am yr ŵyl hon yw bod y beirdd wedi eu dewis yng nghyd-destun gweledigaeth artistig benodol Zoë Skoulding.
Dyma'r beirdd tramor fydd yn perfformio:
Josep Lluís Aguiló (Catalonia), Vassilis Amanatidis (Groeg), Ondrej Buddeus (Y Weriniaeth Tsiec), Marie-Louise Chapelle (Ffrainc), Manuel Forcano (Catalonia), Violet Grigorian (Armenia), Christine Huber (Awstria), Doina Ioanid (Rwmania), Astrid Lampe (Yr Iseldiroedd), Bartlomiej Majzel (Gwlad Pŵyl), Eiríkur Örn Norðdahl (Gwlad yr Iâ), Hasmik Simonian (Armenia) and Martin Solotruk (Slofacia).
Byddant yn perfformio ar y cyd gyda Karen Owen, Jason Walford Davies, Twm Morys, Rhys Trimble, Ifor ap Glyn a Nia Davies.
Ceir mwy o wybodaeth am y rhaglen ar wefan yr ŵyl, ac ar y sianel ar youtube.
Dydd Iau'r 17eg o Hydref - Dydd Mawrth yr 22ain o Hydref 2013
Amrywiol leoliadau yng ngogledd Cymru
Tocynnau: am ddim / £8.00 yn dibynnu ar y digwyddiad