14 Rhagfyr 2015
Mae Llenyddiaeth ar draws Ffiniau unwaith eto yn cyflwyno criw o gyhoeddwyr i fyd llenyddol sydd yn haeddu mwy o gyhoeddusrwydd. Bydd Comma, Parthian, Peireine, Periscope, Peter Owen, Granta, Portobello, Vagabond Voices a'r asiant llenyddol David Lopez yn ymweld â dwy o wledydd y Baltig, gan gwrdd â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac awduron Latfia a Lithiwania rhwng yr 8fed a'r 12fed o Ragfyr, 2015. Bwriad yr ymweliad yw creu cysylltiadau ac ysgogi cydweithio er mwyn galluogi gorau llenyddiaeth gwledydd y Baltig i gyrraedd darllenwyr newydd.