Uchafbwyntiau 2014: Gwefan Gymraeg Schwob - cyfle i ddarganfod clasuron modern gorau'r byd yn iaith y nefoedd!

Uchafbwyntiau 2014: Gwefan Gymraeg Schwob - cyfle i ddarganfod clasuron modern gorau'r byd yn iaith y nefoedd!

17 Rhagfyr 2014

1901815 675873649120540 224271853 n

Ar Ddiwrnod y Llyfr 2014 lansiwyd gwefan Gymraeg Schwob fel rhan o brosiect uchelgeisiol i ddarganfod a hyrwyddo gwybodaeth am lenyddiaeth fodern Ewrop.

Nod y wefan yw cyflwyno clasuron modern, llyfrau cwlt, yn syml iawn, llyfrau y dylid eu darllen doed a ddelo. Cefnogir y dasg gan rwydwaith eang o gyfieithwyr, tai cyhoeddi, gwyliau a sefydliadau llenyddiaeth yn cynnwys Cyfnewidfa Lên Cymru. Mae'r rhwydwaith yn awgrymu cyfrolau ac yn cyfrannu cyfieithiadau sampl, gan eu cyflwyno ar y wefan gydag erthyglau cefndir a chynnig i brynu’r llyfr.

Drwy ddod âr cyfieithiadau hyn ynghyd, bwriad Schwob yw dod â’r cyfrolau i sylw darllenwyr, gan gydweithio gyda chyhoeddwyr, cylchgronau, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. Hyrwyddir y llyfrau hefyd i gyhoeddwyr i hybu gwerthu hawliau cyfieithu, gan gynnig gwybodaeth iddynt am gefnogaeth ariannol.

Ewch i wefan Schwob yma