06 Mawrth 2014
Hyrwyddir y llyfrau hefyd i gyhoeddwyr i hybu gwerthu hawliau cyfieithu, gan gynnig gwybodaeth iddynt am gefnogaeth ariannol.
Mae'r bartneriaeth gyda Schwob yn galluogi’r Gyfnewidfa nid yn unig i ymestyn ei ffocws o lên gyfoes i glasuron modern, ond hefyd i gydweithio gyda sefydliadau llenyddiaeth yng Nghatalwnia, Gwlad Belg, Y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, yn ogystal â Chymdeithas Awduron Ewrop. Mae’r wefan hefyd ar gael mewn Is-Almaeneg, Saesneg, Catalaneg, Pwyleg, a chyn bo hir Ffinneg.
Meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru:
“Ein gobaith yn y Gyfnewidfa Lên yw y bydd Schwob yn hwb i ni wrth hyrwyddo cyfieithu i’r Gymraeg. Mae ffyniant ein hiaith a’n diwylliant yn dibynnu ar wthio’n hiaith i lefydd dieithr. Dyna un o gyfraniadau mawr cyfieithu llenyddiaeth. Pa ddiwrnod gwell i gyhoeddi gwefan sy’n rhoi cyfle i ddarllenwyr ddarganfod clasuron modern o wledydd eraill na Diwrnod y Llyfr?
Mae’r prosiect eisoes yn dwyn ffrwyth yng Nghymru. Fel rhan o brosiect Schwob, croesawyd pum cyfieithydd tramor i Gymru fis Ionawr, a chyfieithwyd rhai o weithiau Caradog Prichard, Kate Roberts, Dylan Thomas ac R.S. Thomas i’r Almaeneg, Catalaneg, Pwyleg, Rwmaneg a Thamil.
Yn ogystal, ymddangosodd Casgliad o Ysgrifau gan T. H. Parry-Williams a Melog, nofel Mihangel Morgan ar restr Ewropeaidd o drysorau llenyddol coll, Finnegan’s List yn dilyn eu dethol gan y nofelydd a’r ysgolhaig Angharad Price. Gwahoddwyd Angharad i enwebu cyfrolau gan Gymdeithas Awduron Ewrop.”