19 Rhagfyr 2014
I ddathlu cyhoeddi rhifyn arbennig ar Gymru o’r cylchgrawn Tseineaidd dylanwadol Foreign Literature and Art, cynhaliodd Cyfnewidfa Lên Cymru ac Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor symposiwm ar gyfnewid llenyddol a chyhoeddi rhwng Cymru a Tseina, ddydd Gwener, Mai’r 2ail.
Ymysg uchafbwyntiau roedd Nia Davies yn holi Patrick McGuinness a Wu Hong, Dirprwy Brif Olygydd, Shanghai Translation Publishing House am lenyddiaeth byd, sgwrs gyda’r bardd alltud Hu Dong, ynghyd a thrafodaeth agored dan y teitl Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru: Ble nesaf? dan law Jon Gower.
Wrth gloi’r digwyddiad, llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Bangor a’r Shanghai Translation Publishing House, a hynny er mwyn datblygu i’r hir-dymor y cydweithio effeithiol rhwng y tri sefydliad.
Casglwyd rha o uchafbwyntiau’r Darllen Tseina, Cyfieithu Cymru ar y dudalen Storify yma.