Uchafbwyntiau 2014: Clasuron o Gymru wedi dethol ar gyfer rhestr Schwob

Uchafbwyntiau 2014: Clasuron o Gymru wedi dethol ar gyfer rhestr Schwob

23 Rhagfyr 2014

Cyfrolau Schwob

Drwy’n partneriaeth gyda phrosiect Ewropeaidd Schwob, gobaith Cyfnewidfa Lên Cymru yw gweld clasuron o Gymru yn cael eu cyfieithu yn ehangach.

Eleni, detholwyd Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard ac A Toy Epic gan Emyr Humphreys i restr Schwob o glasuron modern Ewropeaidd. Bydd y nofelau o Gymru ymysg cyfrolau a gaiff eu hyrwyddo i gyhoeddwyr ar draws Ewrop sy’n debyg o fod â diddordeb mewn prynu hawliau cyfieithu.

Darllenwch fwy am Schwob yma.