Clasuron o Gymru wedi dethol ar gyfer rhestr Schwob

Clasuron o Gymru wedi dethol ar gyfer rhestr Schwob

01 Gorffennaf 2014

Caradog Prichard

Fe fydd A Toy Epic gan Emyr Humphreys ac Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn ymddangos ar restr clasuron modern Schwob.

Prosiect uchelgeisiol i ddarganfod a hyrwyddo gwybodaeth o lygad y ffynnon am lenyddiaeth fodern Ewrop yw Schwob. Mae’n ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau llenyddiaeth yn Y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Catalwnia, Cymdeithas Awduron Ewrop a Chyfnewidfa Lên Cymru. Cefnogir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd.

Detholwyd y cyfrolau yn dilyn cyfarfod diweddar o bartneriaid Schwob yn Krakow. Bydd y nofelau o Gymru ymysg cyfrolau a gaiff eu hyrwyddo i gyhoeddwyr ar draws Ewrop sy’n debyg o fod â diddordeb mewn prynu hawliau cyfieithu.
Yn dilyn y cyfarfod, cytunodd Cyfnewidfa Lên Cymru ynghyd â Sefydliad Llyfrau Gwlad Pwyl (The Polish Book Institute) gydweithio er mwyn canfod cyhoeddwr i’r cyfieithiad Pwyleg gan Marta Klonowska o Un Nos Ola Leuad. Cwblhawyd y cyfieithiad yn ystod preswyliad Schwob yn Nhŷ Newydd yn ôl ym mis Ionawr.

Darllenwch argraffiadau Marta Klonowska o’i hamser yng Nghymru yma.
Darllenwch fwy am Schwob yma.