18 Awst 2015
Cynhelir digwyddiad arbennig i ddathlu cyhoeddi The Rice Paper Diaries yn Ffair Lyfrau Shanghai 2015 ar Awst 21ain 2015. Yn ystod ei thaith i Tseina, fe fydd Francesca Rhydderch hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau, yn cynnwys darllen a thrafod ei gwaith mewn noson yn Llyfrgell Shanghai, yn ogystal a noson farddoniaeth ble bydd yn cyflwyno barddoniaeth gan Menna Elfyn a Dylan Thomas.
Cyhoeddodd Shanghai Translation Publishing House eu bwriad i brynu’r hawliau cyfieithu The Rice Paper Diaries yn dilyn symposiwm ar gyfnewid llenyddol a chyhoeddi rhwng Cymru a Tseina gynhaliwyd ym mis Mai 2014. Trefnwyd y symposiwm gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chyfnewidfa Lên Cymru, a hynny i nodi rhifyn arbennig ar Gymru o’r cylchgrawn Tseineaidd dylanwadol, Foreign Literature and Art.
Yn ystod y symposiwm, llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Bangor a’r Shanghai Translation Publishing House, a hynny er mwyn datblygu i’r hir-dymor y cydweithio effeithiol a fu hyd yma rhwng y tri sefydliad.
Yn teithio gyda Francesca Rhydderch i Tseina mae Dr Yan Ying, darlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu, sy’n cydweithio gyda Shanghai Translation Publishing House a Chyfnewidfa Lên Cymru yn datblygu cynllun cyfieithu llenyddiaeth o Gymru pum mlynedd o hyd yn Tseina.
Detholwyd The Rice Paper Diaries gan Francesca Rhydderch, i Silff Lyfrau 2013-2014 Y Gyfnewidfa. Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau.
Cefnogir taith Francesca Rhydderch a Dr Yan Ying i Tseina gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Phrifysgol Abertawe.