01 Chwefror 2016
Byddai awdur yr hunangofiant Neb, sef y bardd R.S.Thomas, wedi hoffi teitl y casgliad cyntaf o'i waith i ymddangos yn Ffrangeg, sef Qui?. Cyflwynir trigain o'i gerddi (o bob cyfnod) yn y Saesneg wreiddiol, gyda'r cyfieithiad Ffrangeg ar y dudalen gyferbyn. Cafodd tri awdur law yn y dethol a'r cyfieithu, pob un ohonynt yn gyfarwydd iawn â Chymru: Marie-Thérèse Castay, oedd yn adnabod y bardd yn dda ac sydd wedi arbenigo ar gyfieithu llenyddiaeth Gymraeg; Jean-Yves Le Disez, awdur llyfr am Gymru a chyfieithydd o'r Gymraeg a'r Saesneg; a'r bardd a chyfieithydd Paul Keineg. Llun gan Mary Lloyd Jones sydd ar glawr y gyfrol a gyhoeddir gyda chefnogaeth Y Gyfnewidfa Lên gan Les Hauts-Fonds. Mae'r un cyhoeddwr newydd gyhoeddi ysgrif am y bardd gan Marie-Thérèse Castay ar ffurf pamffledyn, sef R.S.Thomas, poète de paradoxes.