19 Ionawr 2016
Cyhoeddwyd yn India yn ddiweddar ddwy gyfrol o straeon byrion gan awduron o Gymru. Karuppu: Welsh Cherukathakal oedd y gyntaf i ymddangos gan DC Books, ac ynddi ceir straeon gan Angharad Price, Lloyd Jones, Owen Martell, Deborah Kay Davies, Fflur Dafydd, Clare Morgan, Rachel Trezise, Tony Bianchi, Robert Minhinnick, a Sian Melangell Dafydd, i gyd wedi eu cyfieithu i Malayalam gan Jolly Varghese.
Newydd ei chyhoeddi hefyd y mae’r gyfrol Anthology of Short Stories from Wales in Bengali, wedi ei chyfieithu gan Sunandan Roy Chowdhury, un sydd eisoes wedi cyfieithu nofel Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd i’r Bengali. Mae’r gyfrol hon o straeon byrion yn cynnwys straeon gan Tristan Hughes, Deborah Kay Davies, Sian Melangell Dafydd, Fflur Dafydd, Lloyd Jones, Angharad Price, Francesca Rhydderch, Robert Minhinnick, a Mihangel Morgan. Cyhoeddwyd hi gan wasg Sampark, ac nid dyma’r tro cyntaf i’r wasg honno gyhoeddi cyfrol o straeon byrion o Gymru. Cyhoeddwyd The Anthology of Welsh Short Fiction ganddynt yn 2015, cyfrol o gyfieithiadau Bangla o straeon gan ddeg o awduron o Gymru.