27 Mehefin 2013
Bydd dwy wobr: am gyfieithiad i'r Gymraeg a chyfieithiad i'r Saesneg. Bydd y ddau enillydd yn derbyn Ffon Farddol wedi ei cherfio'n arbennig ar gyfer yr achlysur o ddarn o goedyn o ardal Llanystumdwy, gan Elis Gwyn. Noddir y ffon gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae ein diolch yn fawr i'r Gymdeithas am eu cefnogaeth i'r gystadleuaeth a'u cymorth parod.
Dylid anfon eich cyfieithiadau atom erbyn hanner nos ar yr 22ain o Orffennaf. Ceir manylion y gystadleuaeth yma a hanes enillwyr blaenorol yma.
Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 gan Dŷ Cyfieithu Cymru i hyrwyddo a mawrygu camp a chyfraniad allweddol cyfieithwyr wrth fynd â llenyddiaeth ar draws ffiniau, a thynnu sylw at gyfieithu llenyddiaeth fel un o’r celfyddydau creadigol. Sefydlwyd Tŷ Cyfieithu Cymru, sef rhaglen o weithgarwch sy’n hyrwyddo cyfieithu creadigol yng Nghymru, pan aeth Cyfnewidfa Lên Cymru ati, hefyd yn 2009, i ffurfio partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd.