06 Tachwedd 2014
Yn nigwyddiad Bord Gron y Beirniaid Wales Arts Review a gynhelir bob dwy flynedd, mewn cyd weithrediad a Llenyddiaeth Cymru, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Sadwrn, Tachwedd 1af, cyflwynwyd y wobr i Mari Prichard, merch Caradog Prichard, gan yr actoress Sian Phillips.
Drwy project Schwob, nod Cyfnewidfa Lên Cymru yw ceisio hyrwyddo Un Nos Ola Leuad nid yn unig fel y 'Nofel Gymeig Orau' ond hefyd fel clasur Ewropeaidd modern.
Prosiect uchelgeisiol i ddarganfod a hyrwyddo gwybodaeth o lygad y ffynnon am lenyddiaeth fodern Ewrop yw Schwob. Mae’n ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau llenyddiaeth yn Helsinki, Amsterdam, Brwsel, Krakow, Barcelona, Paris a Chymru drwy Gyfnewidfa Lên Cymru. Cefnogir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd.
Nod Schwob yw cyflwyno clasuron modern, llyfrau cwlt, yn syml iawn, llyfrau y dylid eu darllen doed a ddelo. Drwy ddod âr cyfieithiadau hyn ynghyd, bwriad Schwob yw dod â’r cyfrolau i sylw darllenwyr, gan gydweithio gyda chyhoeddwyr, cylchgronau, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. Hyrwyddir y llyfrau hefyd i gyhoeddwyr i hybu gwerthu hawliau cyfieithu, gan gynnig gwybodaeth iddynt am gefnogaeth ariannol.
Detholwyd Un Nos Ola Leuad i restr Schwob ym mis Mehefin. Mae Cyfnewidfa Lên Cymru ynghyd â Sefydliad Llyfrau Gwlad Pwyl (The Polish Book Institute) ar hyn o bryd yn cydweithio er mwyn canfod cyhoeddwr i gyfieithiad Pwyleg Marta Klonowska o'r nofel, gwblhawyd yn ystod preswyliad Schwob yn Nhŷ Newydd yn ôl ym mis Ionawr.
Darllenwch sylwadaeth Jon Gower ar Un Nos Ola Leuad yn Wales Arts Review yma.