Dathlu Canmlwyddiant Emyr Humphreys


Dathlodd Emyr Humphreys ei ben-blwydd yn 100 mlwydd oed yn Ebrill 2019. Fel awdur dros 20 o nofelau, casgliadau o straeon byrion a chyfrolau o gerddi, mae Emyr Humphreys wedi ennill nifer o wobrau llenyddol pwysig fel Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Hawthornden, yn ogystal â Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru.


Roedd achlysur ei ben-blwydd yn gyfle i ni yma yng Nghyfnewidfa Lên Cymru i adolygu gyrfa ddisglair yr awdur a’r cynhyrchydd radio, teledu a ffilm, gyda’r nod o argymell iddo gael ei gyfieithu ymhellach. Mae rhai o’i gyfrolau eisoes wedi cael eu cyfieithu (gweler y rhestr yma) ac yntau hefyd wedi cyfieithu dramâu o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gyfer y radio yn ystod ei amser fel Pennaeth Radio gyda’r BBC yn y 1960au.


Mae sawl ffordd o ddadansoddi cyfanwaith Emyr Humphreys, gan fod nifer wedi ysgrifennu amdano fel awdur ôl-drefedigaethol; wedi trafod moderniaeth ei arddull; a’i ystyried fel awdur ‘ymylol’ neu o’r ffin: hynny yw, o ganlyniad i’w fagwraeth (a’r dylanwad ffurfiannol cynnar) yn Sir y Fflint, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.


Roedd nifer o ddylanwadau llenyddol Humphreys yn llenorion Saesneg (D.H. Lawrence a Henry James yn eu mysg), ond cafodd digwyddiadau Penyberth 1936 effaith angerddol ar y dyn ifanc, yn llenyddol ac yn wleidyddol. Yn dilyn llosgi’r Ysgol Fomio, cafodd ymdeimlad cenedlaetholgar Humphreys ei gynnau a dechreuodd ei barch a’i edmygedd gydol oes at Saunders Lewis.


Astudiodd Humphreys yn y Brifysgol yn Aberystwyth tan iddo gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol  yn 1939. Bu’n gweithio ar ffermydd yng Nghymru yn ystod y rhyfel ac wedi hynny gyda Chronfa Achub y Plant yn Llundain, yr Aifft a’r Eidal. Mae’r profiadau ffurfiannol cynnar hyn yn atseinio yn ei waith. Ceir sawl nodwedd ‘Ewropeaidd’ ac ôl -drefedigaethol yn ei waith: o ran ei gymeriadau sydd yn teithio i neu yn dod o Ewrop, neu o ran trafodaeth o wledydd ac ieithoedd eraill yn y gwaith, a sut mae’n trin themâu fel rhyfel a hanes cymdeithasol. 


Wedi iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, The Little Kingdom, yn 1946 - ac aeth ymlaen i ennill gwobr Somerset Maugham – parhaodd i Humphreys ysgrifennu nofelau yn yr iaith Saesneg. Ond yn 1958, tra roedd yn ei rôl fel Pennaeth Drama Radio’r BBC yng Nghaerdydd, fe ysgrifennodd ddrama Gymraeg a oedd yn seiliedig ar y llawysgrif Saesneg y bu’n gweithio arni ddeunaw mlynedd ynghynt. Ymhelaethodd Humphreys ar y testun gwreiddiol o’r pedwardegau, ac yn 1958 fe ddarlledwyd Y Tri Llais fel cyfres wythnosol ar y radio. Yn dilyn y sylw a’r llwyddiant i’r ddrama, trosodd hi i nofel ac fe’i cyhoeddwyd gan Wasg y Dryw, Llandybïe. Cyfieithodd Humphreys y nofel i’r Saesneg yn ystod yr un flwyddyn, ac fe ymddangosodd gyda’r teitl A Toy Epic i glod mawr gan ennill Gwobr Hawthornden y flwyddyn ganlynol.


Yn 1965, gadawodd Humphreys y BBC a symud i Brifysgol Bangor i ddysgu rhethreg a mynegiant y cyfryngau. Wedi ymddeol o’r swydd honno yn 1972, fe ysegrodd ei hun yn gyfangwbl i ysgrifennu.


“Nid ychwanegiad moethus i fywyd yw celfyddyd ond ymateb arbennig mewn cyfrwng arbennig i’r gwewyr o fod yn fyw”

Emyr Humphreys

Yn ystod ei yrfa fel Pennaeth Radio BBC Cymru,  comisiynodd Humphreys gyfres radio am y ddrama yn Ewrop, a darlledwyd cyfieithiadau o ddramâu Ewropeaidd i’r Gymraeg ac i’r Saesneg, gan gynnwys dramâu Beckett (cyfieithwyd Wrth Aros Godot gan Saunders Lewis) a Brecht (cyfieithwyd i’r Saesneg gan Goronwy Rees; i’r Gymraeg gan Pennar Davies). Cyfieithodd ef ei hun ddramâu Saunders Lewis; yr enwocaf oedd ei gyfieithiad o Siwan i’r Saesneg a gynhyrchwyd yn Llundain yn 1959 ac ymddangosodd ar y teledu yn 1960.


Mae’r anghenraid i ddeall a dadansoddi ein hamgylchfyd yn nodwedd gynhenid yng ngwaith Humphreys, ac roedd hyn yn flaengar hefyd yn ei athrawiaeth wrth ddysgu yn y Brifysgol ym Mangor. Yn ystod y 1960au a’r 1970au, cyfnod o ymgyrchu ymroddgar dros hawliau iaith, credai Humphreys fod gwerth deall a “meistroli’r cyfryngau cyn ein bod ni’n medru cael yr holl bethau roeddan ni isio, fel sianel Gymraeg ac yn y blaen”.


Ymgyrchodd Humphreys dros gael sianel deledu Gymraeg o 1969-80 ac yn ystod y 1970au treuliodd gyfnod yn y carchar dros achosion yn ymweud â’r Gymraeg. Fe ysgrifennodd stori fer Saesneg a drama deledu Cymaeg yn seiliedig ar ei brofiad o garchar. Yn 1972, traddododd ei ddarlith ‘Diwylliant Cymru a’r Cyfryngau Torfol’ a chyhoeddodd yr anerchiad yn Taliesin yn 1974. 


Yn y gyfrol “Y Chwedegau”, sydd yn cynnwys traethodau am faterion cymdeithasol a’r celfyddydau yn ystod y degawd hwnnw, mynega Humphreys ei farn fod angen datblygu’r drafodaeth o’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn sôn nad oes gennym yr ‘allweddi’ i ddeall cymdeithas fodern, yn enwedig gydag ymddangosiad technolegau modern. Yn ogystal i’r termau angenrheidiol er mwyn trafod y pwnc, mae angen hefyd athroniaeth i’r pwnc medd Humphreys.

“Yr ydym yn amddifad o bron pob allwedd i ddeall y gwareiddiad newydd o’n cwmpas: o na byddai’n bosib imi dynnu’ch sylw chi at gyfeithiadau Cymraeg teilwng o brif weithiau Marx neu Freud neu Wittgenstein neu Le Corbusier fel rhan o ffrwyth gweithgarwch y chwedegau. Y mae’r cwpwrdd llyfrau Cymraeg yn gwbl wag o’r math yma o weithiau.”


Yn ôl Humphreys, gellir cyfieithu datrys diffygion iaith. Credai’r athronydd Almaeneg, Friedrich Schleiermacher, ym mhŵer cyfieithu er mwyn addysgu a chyfoethogi darllenwyr a’r cyfieithydd fel llysgennad diwylliannol sydd yn hyrwyddo ac ehangu’r iaith darged a’r iaith wreiddiol: y byddai cyfieithu, yn ôl Schleiermacher yn ehangu’r iaith ac yn rhyddhau mynegiant y darllenwyr yn y pwnc.


Trwy gyfieithu a hefyd trwy ei waith cynhyrchu dramâu (Cymraeg a Saesneg), cyfrannodd Humphreys gyn sylweddol at y berthynas draws-ddiwylliannol ac at ledu celfyddydau Cymru i weddill y byd.Teithiodd i’r UDA yn 1974 fel rhan o’i waith ar gyfres deledu ar Gymry’r Unol Daleithiau o’r enw 'Y Baradwys Bell/Our American Dream'. Yn ystod ei gyfnod gyda’r BBC a HTV, cynhyrchodd nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu fel y gyfres ‘Y Gwrthwynebwr’ yn 1974 .


Llwyddodd ei gyfres Channel 4 – a gyhoeddodd hefyd fel llyfryn, The Triple Net – i ledaenu gwaith y llenor Kate Roberts ymhellach, wrth iddo gyflwyno portread o’i gwaith a’i bywyd hi i gynulleidfa Saesneg gan ddefnyddio ei llythyron a’i dyddiaduron.


Yn ei lenyddiaeth ac yn ei waith y cyfryngau, yr elfen gyffredinol a chyson yw’r ymgais i ail-ysgrifennu hanes Cymru; boed drwy cynnig darlun newydd o gyfnodau penodol o hanes megis cymunedau diaspora Cymraeg yn yr UDA, neu drwy ei ymdrechion i gyflwyno’r ‘allweddi’ angenrheidiol er mwyn galluogi hunan-fynegiant y Cymry ac i sicrhau cyfrwng sefydlog i gyfathrebu’r mynegiant hwnnw.

 

 

Dolenni perthnasol 

Adolygiad M. Wynn Thomas o waith Emyr Humphreys a Marilynne Robinson 

Cyfweliad ar wefan 'Society of Authors' 

Darn o 'Diwylliant Cymru a'r cyfryngau torfol' ar wefan O'r Pedwar Gwynt 

Y Diweddaraf