Fabula

Fabula

Read sample of this book

Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth a Bro Morgannwg: dyna rai o'r llefydd y mae gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt. Mae'r casgliad o wyth stori fer yn mynd â'r darllenydd i bob cwr o'r byd, o'r gorffennol i'r dyfodol, i fyd ffantasi a ffaith, gyda disgrifiadau byw a dychymyg lliwgar yr awdur. Mae sawl ystyr i'r gair 'fabula' – enw ar wyfyn arbennig; digwyddiadau anwir, sydd wedi eu creu o'r dychymyg; ac hefyd ddeunydd crai stori, yn hytrach na stori orffenedig. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi'n wirionedd, a ffaith yn freuddwyd.

Adolygiadau

'Nodweddir straeon Fabula gan eu cymysgedd chwilfrydig o’r ffuglen a’r ffeithiol (neu’r honedig ffeithiol), ac atgof a chwedl. Mae’r naws yn Gymreig a rhyngwladol ar yr un pryd, gyda’r straeon wedi’u lleoli mewn mannau mor amrywiol â Rhufain, Kyoto, Dulyn a Bae Ceredigion.'

Arwel Vittle, Barn