Llŷr Gwyn Lewis

Llŷr Gwyn Lewis

 Llŷr Gwyn Lewis

Yn wreiddiol o Gaernarfon, astudiodd Llŷr Gwyn Lewis yng Nghaerdydd a Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Ar ôl cyfnod darlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn olygydd adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd.

Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Taliesin ac O’r Pedwar Gwynt.

Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa, 2014), cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015. Cyhoeddwyd cyfieithiad gan Katie Gramich o'r gyfrol honno yn 2021 gan Parthian, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Cyrhaeddodd ei gyfrol o farddoniaeth, Storm ar wyneb yr haul (Barddas, 2014) rhestr fer y categori barddoniaeth.

Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Fabula, gan Y Lolfa yn 2017. Mae’r gyfrol hon yn mynd â ni i Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth, Bro Morgannwg a sawl lle arall, wrth i’r darllenydd gael ei gludo ar deithiau sy’n ffinio rhwng hanes a realiti. Ym myd Fabula, gall ffuglen ddod yn ffaith, a gall ffeithiau ddod yn freuddwydion. Detholwyd Fabula ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017.

Yn 2017 detholwyd Llŷr yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop 2017, fel rhan o brosiect arloesol, Ewrop Lenyddol Fyw (LEuL), a arweinir gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF).

Yn 2019 cymerodd ran mewn trafodaeth banel, a drefnwyd gan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, yn Ffair Lyfrau Frankfurt. Hefyd yn 2019 roedd yn un o’r awduron a oedd yn rhan o daith Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Calicut a Mumbai.

Cafodd ei gynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch cyfieithiad o lythyrau Dolores Morgan - Dolores Morgan's Letters from the Far East - o'i gyfrol Fabula, a chyfieithwyd i'r Saesneg gan Katie Gramich, yma.

Cyhoeddodd ei bamffled o farddoniaeth, rhwng dwy lein drên, yn ystod y cyfnod clo yn 2020 a detholwyd y bamffled i'n Silff Lyfrau 2020-21, a chyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.

Fideo : New Voices from Europe 2017: Llyr Gwyn Lewis

Fideo : Llŷr yn trafod ac yn darllen o Rhyw Flodau Rhyfel a Fabula.