Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.
‘Dyma daith trwy ddegawdau o ddigideiddio, o nostalgia a hiraeth am yr analog i fydoedd mawr y gemau fideo lle ‘di byth yn bwrw’. Trwy lesni awyr rhith-fydoedd Mario neu Sonic i obsesiwn y tad a’r mab â Tetris, teimlwn waliau yn chwalu wrth i'r tirlun gwleidyddol hefyd symud dan draed y bardd yn y byd go iawn [...] mae hon yn gyfrol bwysig mewn cyfnod pan rydan ni gyd angen ailddarganfod y rhyddid yna.’
Meleri Davies
Yn y cerddi hyn mae Llŷr Gwyn Lewis yn edrych drwy lens ddigidol ar ei fagwraeth ei hun ynghanol gemau fideo a hysbysebion teledu, ac yn ei chymharu a magwraeth ei blant yng nghanrif ffonau a phandemig. Er iddo gredu, i ddechrau, mai’r nawdegau oedd ein un cyfle olaf, fy dyf gobaith y bydd ei feibion yntau, ryw ddydd, yn dysgu sut i guro’r gêm.
Gyda phresenoldeb dirfodol technoleg wrth graidd y gyfrol, dyma lyfr a fydd yn trosgynnu ffiniau a chenedlaethau trwy drafod beth mae’n ei olygu i fyw mewn byd llawn sgriniau.
9781911584940
120 tt
Cyhoeddiadau Barddas / Bethany Celyn: bethanycelyn@barddas.cymru