Our Bookshelf

Browse our Bookshelves, selected annually by the Exchange as a window to recent Welsh literary works which we recommend for translation.

yn ôl
9781738479405

"Woof is a triumph."

Kate Wyver, The Guardian

Woof

Union bum mlynedd wedi’r perfformiad cyntaf, ddiwedd Ionawr 2019 gan Theatr y Sherman cyhoeddwyd sgript y darn arbennig hwn o theatr, sef drama gyntaf gan yr hynod dalentog Elgan Rhys.

Dilyna Woof gyfnod ym mywydau dau ddyn ar drothwy eu tridegau, wrth iddynt ddisgyn mewn cariad a sylweddoli’n araf fod yr hyn sydd ei angen ar y naill a’r llall yn wahanol. Mae ysgrifennu cignoeth a thelynegol Elgan Rhys yn croniclo’r tensiwn sy’n cronni rhwng Daf a Jesse wrth i’r ddrama fynd rhagddi ac yn dawnsio’n fedrus rhwng doniolwch, tynerwch a thywyllwch.

Gyda ffotograffau o’r cynhyrchiad gwreiddiol gan Chris Lloyd a rhagair newydd gan y dramodydd. Woof yw’r drydedd gyfrol yng nghyfres Sgriptiau Stampus, sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes yn y Gymraeg.

Adolygiadau

"Woof is a triumph."

Kate Wyver, The Guardian