31 Mawrth 2015
Cynhelir Fiction Fiesta eleni ddydd Gwener, 17 Ebrill 2015 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ble cynhelir dau ddigwyddiad gydag awduron o Fecsico, Yr Alban a Chymru.
Am 5:15yh, fe fydd awduron straeon byrion Juan Villoro a Francesca Rhydderch yn sgwrsio gyda’r bardd Owen Sheers.
Am 7:00yh fe fydd Pedro Serrano and WN Herbert yn sgwrsio gyda Richard Gwyn.
Cynhelir derbyniad gwin rhwng y ddau ddigwyddiad.
Trefnir Fiction Fiesta eleni mewn cydweithrediad a Wales PEN Cymru.
Cefnogir y digwyddiad gan y Cyngor Prydeinig ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Ceir manylion pellach yma.
Mynediad am ddim, ond dylid cadw lle drwy gysylltu a walespencymru@gmail.com