Gwobrwyo Her Gyfieithu 2013 yn yr Eisteddfod

Gwobrwyo Her Gyfieithu 2013 yn yr Eisteddfod

22 Gorffennaf 2013

Eisteddfod

Dowch yn llu fore Mawrth y 6ed o Awst i babell Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych. Byddwn yn gwobrwyo enillydd Cymraeg Her Gyfieithu 2013 gyda ffon farddol wedi ei cherfio'n arbennig o ddarn o goedyn o ardal Llanystumdwy gan Elis Gwyn. Bydd y gwobrwyo'n rhan o ddigwyddiad bywiog ehangach yn dwyn y teitl 'Pam Cyfieithu i'r Gymraeg?', mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.00 a cheir lluniaeth ysgafn a chyfle i weld atodiad arbennig y Gyfnewidfa Lên sy'n cael ei anrhegu gyda rhifyn yr haf o Taliesin.

Bydd yr atodiad Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: India yn cynnws cyfieithiadau o waith beirdd o'r India gan Siân Melangell Dafydd, Menna Elfyn, Hywel Griffiths, Twm Morys, Karen Owen ac Eurig Salisbury.

Anfonwch neges os gwelwch yn dda at post@cyfnewidfalen.org i gadw lle.

Mae'r Her Gyfieithu'n rhan o raglen weithgaredd flynyddol Tŷ Cyfieithu Cymru, sef partneriaeth rhwng Y Gyfnewidfa Lên a Llenyddiaeth Cymru.